Hereford

Dwi wedi bod yn gwylio rhaglen am yr Alban sy’n cael ei chyflwyno gan hen ffrind i mi. Roedd Ian yn y coleg gyda fi yn Hereford am ddwy flynedd, ac roeddem yn yr un hostel. Fe ddaethom yn ffrindiau’n eithaf sydyn, dwi’n meddwl, gan fod o o’r Alban a fi o Gymru – y Celtaid efo’i gilydd, am wn i. Roedd o’n nabod rhywun arall o Gymru ychydig yn well na fi, oherwydd roedd bachgen o Gaernarfon yn y coleg hefyd ac roedd e wedi bod yno ers blwyddyn. Roeddwn i’n rhannu’r ystafell fyw gyda’r boi o Gaernarfon; ges i fy symud yno i drio gwneud i mi deimlo’n fwy cartrefol oherwydd mynd i’r coleg yn Hereford oedd y tro cyntaf i mi symud i ffwrdd o adra. Roeddwn yn 19 ar y pryd, ddim yn ifanc ond yn dal i deimlo’r torriad gyda’r cysylltiad adra. 

Oherwydd yr hiraeth, fuas am fisoedd,  yn mynd adra ar y penwythnos, mam a dad yn dod i fy nôl i Shrewsbury. Aeth hyn ymlaean am ychydig o fisoedd. Yn y diwedd nes i benderfynu aros yn y coleg a dim ond mynd adra adeg y gwylia, fyswn wedi medru mynd adra yn amlach, roedd y coleg yn talu.  Ar hyn a hyn o amser nid oeddwn really isho mynd adra o gwbwl dwi ddim yn meddwl.

Roedd Ian yn hoffi peintio os dwi yn cofio yn iawn, yn nol y rhaglen welas i mae wedi colli ei olwg i gyd rwan oherwydd mae ganddo gi tywus.  Mae yn amlwg ei fod yn gweithio i'r BBC a dyna sut mae o wedi cael gwneud y rhaglen yma. 

Mae hi yn change gweld rhiwyn hefo nam golwg yn cymerud y brif rhan mewn cyfres deledu, ma na ambell i raglen wedi bod hefo cyflwynydd hefo nam golwg on dim cyfresi llawn.  

Rwyf yn mwynhau y rhagleni, dim ond just fod Ian ar na nhw ond maen't yn ddiddorol hefyd, dwi meddwl fod Ian wedi cael ei hyfforddi mewn newyddiadwriath a felly mae yn gwybod y cwestiynau iawn i ofyn bobl.

Dwi wedi sylwi rwbath am y trefydd yn yr Alban maen't i gyd yn cwyno fod bobl ifanc yn gadael a mynd i'r trefi mawr, mae hyn yr un peth a sydd yn mynd ymlaen yn Gymru, ond mae o fwy difrifol yng Nghymru, maen't yn mynd ar iaith hefo nhw.

Nid yw y rhan fwyaf o fobl ifanc yn dod yn nol os maent yn gadael, hwyrach fod rhai ddim eisio, a rhai yn methu., ond maen't i gyd yn mynd i deimlo hiraeth rhyw ben ma siwr..nes i.

Comments

Popular posts from this blog

strife

the lake