Hereford
Dwi wedi bod yn gwylio rhaglen am yr Alban sy’n cael ei chyflwyno gan hen ffrind i mi. Roedd Ian yn y coleg gyda fi yn Hereford am ddwy flynedd, ac roeddem yn yr un hostel. Fe ddaethom yn ffrindiau’n eithaf sydyn, dwi’n meddwl, gan fod o o’r Alban a fi o Gymru – y Celtaid efo’i gilydd, am wn i. Roedd o’n nabod rhywun arall o Gymru ychydig yn well na fi, oherwydd roedd bachgen o Gaernarfon yn y coleg hefyd ac roedd e wedi bod yno ers blwyddyn. Roeddwn i’n rhannu’r ystafell fyw gyda’r boi o Gaernarfon; ges i fy symud yno i drio gwneud i mi deimlo’n fwy cartrefol oherwydd mynd i’r coleg yn Hereford oedd y tro cyntaf i mi symud i ffwrdd o adra. Roeddwn yn 19 ar y pryd, ddim yn ifanc ond yn dal i deimlo’r torriad gyda’r cysylltiad adra. Oherwydd yr hiraeth, fuas am fisoedd, yn mynd adra ar y penwythnos, mam a dad yn dod i fy nôl i Shrewsbury. Aeth hyn ymlaean am ychydig o fisoedd. Yn y diwedd nes i benderfynu aros yn y coleg a dim ond mynd adra adeg y gwylia, fyswn wedi medru myn...